Trosolwg o’r Prosiect

Pwy yw partneriaid y prosiect?

Mae Fferm Wynt Awel y Môr yn eiddo i RWE Renewables (60%), Stadtwerke München (30%) a changen ariannu Siemens, Siemens Financial Services (10%). RWE sy’n arwain y gwaith o ddatblygu’r prosiect ar ran partneriaid y prosiect.

 

Pwy yw RWE Renewables?

RWE Renewables, is-gwmni diweddaraf Grŵp RWE, yw ail gwmni ynni adnewyddadwy mwya’r byd. Mae gan y cwmni tua 3,500 o weithwyr ac mae ganddo ffermydd gwynt ar y tir ac ar y môr, gorsafoedd ffotofoltäig a chyfleusterau storio batri gyda chapasiti cyfun o tua 9 gigawat. Mae RWE Renewables yn sbarduno’r gwaith o ehangu ynni adnewyddadwy mewn 15 o wledydd ar bedwar cyfandir. Mae gan RWE gyfoeth o brofiad o adeiladu a gweithredu ffermydd gwynt ar y môr ac ar hyn o bryd mae ganddo 17 o ffermydd gwynt gweithredol, yn ogystal â chwech wrthi’n cael eu datblygu a dau wrthi’n cael eu hadeiladu.

Yng Nghymru, mae RWE Renewables yn gweithredu tair fferm wynt ar y môr a thair fferm wynt ar y tir. Mae hyn yn cynnwys North Hoyle, a adeiladwyd gennym, sef fferm wynt ar y môr gyntaf y DU ar raddfa fawr. RWE Renewables yw cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Cymru, ac mae’n cynhyrchu dros draean o ynni adnewyddadwy Cymru.

 

Ar ba gam mae’r prosiect?

Mae’r prosiect yn y cam datblygu. Rydym yn disgwyl cyflwyno’r ceisiadau am y cydsyniadau datblygu angenrheidiol (Gorchymyn Cydsyniad Datblygu a Thrwydded Forol) ddechrau 2022.

 

Pryd fydd y fferm wynt yn cael ei hadeiladu?

Yn amodol ar gyflawni nifer o gerrig milltir o ran cydsynio, byddem yn disgwyl adeiladu’r fferm wynt a dechrau cynhyrchu ynni adnewyddadwy cyn 2030.

 

A fyddaf yn cael rhoi sylwadau ar y prosiect?

Mae croeso i chi roi sylwadau ar y prosiect drwy lenwi holiadur ymgynghori sydd ar gael ar ein gwefan (www.awelymor.cymru/?lang=cy), drwy ein hystafell arddangos rithiol (https://exhibition.awelymor.cymru/?lang=cy), neu drwy gysylltu â ni drwy’r manylion cyswllt isod:

  • Cyfeiriad e-bost y prosiect: awelymor@rwe.com
  • Llinell wybodaeth rad ac am ddim: 0800 197 8232
  • Cyfeiriad post: Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr Cyf, RWE Renewables UK Ltd, Windmill Hill Business Park, Whitehill Way, Swindon, SN5 6PB

Rydym ar fin dechrau ar ail rownd a rownd derfynol ein hymgynghoriad cyhoeddus, lle gallwch gyflwyno adborth ar gynlluniau ein prosiect (31 Awst – 11 Hydref 2021). Er na allwn warantu hynny, byddwn yn ceisio ystyried sylwadau a wneir ar unrhyw adeg cyn cyflwyno’r ceisiadau am ganiatâd cynllunio ar ddechrau 2022.

Bydd rhanddeiliaid hefyd yn gallu cofrestru fel partïon â diddordeb a chymryd rhan yn y gwaith o archwilio’r cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu yn ffurfiol. Bydd hyn yn cael ei hysbysebu ar yr amser priodol.

 

Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?

Mae modd gweld yr holl wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd ar wefan y prosiect, www.awelymor.cymru/?lang=cy. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn awelymor@rwe.com.

 

Ffeithiau am y Prosiect

Ble yn union fydd y fferm wynt?

Bydd fferm wynt Awel y Môr yn cael ei lleoli 10.6km (ar y pwynt agosaf) oddi ar arfordir Gogledd Cymru, i’r gorllewin o Fferm Wynt bresennol Gwynt y Môr.

 

Sawl tyrbin?

Rydym yn edrych yn gyson ar ddatblygiadau technolegol mewn tyrbinau gwynt ar y môr. Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar yr holl opsiynau, hyd at uchafswm o 91 tyrbin. Bydd hyn yn dibynnu ar faint y tyrbinau, er enghraifft, byddai llai o dyrbinau os bydd tyrbinau mwy yn cael eu defnyddio.

 

Pa mor dal fyddant?

Rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer tyrbinau hyd at 332m. Mae hyn yn golygu pan fydd llafn rotor yn pwyntio i fyny, bod blaen y llafn tua 332 metr uwchben lefel y môr. Mae’r system gynllunio yn caniatáu i ni ofyn am ganiatâd ar gyfer amrywiaeth o opsiynau yn y ‘senario dylunio uchaf’ hwn. Mae hyn yn golygu y gallwn ganfod a gosod y tyrbinau gorau ar y farchnad (o fewn y senario hwnnw) adeg y gwaith adeiladu, os bydd y cydsyniadau’n cael eu rhoi.

 

Faint o drydan fydd y fferm wynt yn ei gynhyrchu?

Rydym yn archwilio pob opsiwn ar gyfer y fferm wynt. Yn dibynnu ar y dyluniadau terfynol, gallai Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr fod â chapasiti wedi’i osod o hyd at uchafswm o 1,100MW a chynhyrchu digon o ynni glân i ddiwallu anghenion cyfwerth â thua 900,000 o gartrefi cyfartalog yn y DU. Mae hyn yn amodol ar astudiaethau a dyluniadau parhaus i wneud y gorau o’r safle.

Bydd y ffigur terfynol yn dibynnu ar faint a nifer y tyrbinau rydym yn eu gosod. Rydym yn parhau i gynnal astudiaethau technegol ac amgylcheddol a gweithgareddau ymgynghori i gyflwyno prosiect sydd wedi’i ddylunio’n gynaliadwy gan gyfeirio’n

benodol at sensitifrwydd yr amgylchedd derbyn ac sy’n cyd-fynd â pholisïau’r llywodraeth, targedau ynni adnewyddadwy a’r gost yn y pen draw i’r defnyddiwr.

 

Gweithgareddau ar y Tir

Pa borthladd fydd yn cael ei ddefnyddio yn ystod y cam adeiladu?

Mae RWE yn ymchwilio i’r porthladdoedd addas sydd ar gael ar gyfer y cam adeiladu ac ar gyfer gweithrediadau yn ystod oes y fferm wynt. Yn ystod y cam cynnar hwn yn y prosiect, nid yw’r penderfyniadau hyn wedi cael eu gwneud ond rydym yn parhau i ymchwilio i opsiynau addas.

 

Ble fydd y ceblau’n dod ar y lan?

Bydd y ceblau’n dod ar y lan i’r dwyrain o’r Rhyl ar Draeth Ffrith, wrth ymyl Clwb Golff y Rhyl. Byddant yn cael eu claddu o dan y traeth a’r amddiffynfa fôr. Mae dyluniad manwl y lanfa yn dal i gael ei gwblhau drwy waith ymgynghori ac asesu technegol ac amgylcheddol.

 

Beth sydd angen ei adeiladu ar y tir?

Mae angen i’r fferm wynt gysylltu â National Grid yn Llanelwy (Bodelwyddan). Bydd angen seilwaith is-orsaf newydd yn agos at y pwynt cysylltu hwn. Bydd y gwaith ar y tir hefyd yn cynnwys gosod ceblau wedi’u claddu rhwng y lanfa a’r pwynt cysylltu. Bydd National Grid hefyd yn uwchraddio ei seilwaith yn yr ardal ar gyfer y cysylltiad newydd.

 

Cyfleoedd yn y Gadwyn Gyflenwi

A fydd busnesau lleol yn cael cyfle i gyflenwi’r prosiect?

Gallai’r prosiect gynnig cyfleoedd economaidd sylweddol i fusnesau gyda manteision posibl o ran y gadwyn gyflenwi a swyddi a chontractau cysylltiedig, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi.

 

Manteision Cymunedol

A fydd unrhyw gyllid ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol?

Mae gan RWE hanes hir o gefnogi’r cymunedau y mae’n gweithredu ynddynt. Wrth i brosiect Awel y Môr fynd rhagddo, byddwn yn gweithio gyda chymunedau i ddatblygu ein dull o gefnogi’r ardal leol. Ar hyn o bryd, nid yw manylion unrhyw becyn buddion cymunedol sy’n gysylltiedig ag Awel y Môr wedi cael eu cwblhau. Rydym yn bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater hwn yn gynnar yn

2022 a byddwn yn gwahodd pobl leol a grwpiau i helpu i siapio’r ffordd orau y gall y prosiect gefnogi’r gymuned.

Dewislen